Text Box: Simon Thomas AC
 Cadeirydd
 Y Pwyllgor Cyllid
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Tŷ Hywel
 Bae Caerdydd CF99 1NA 16 Tachwedd 2016

Annwyl Simon

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18

Cylch gwaith y Pwyllgor

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn gyfrifol am graffu ar wariant Llywodraeth Cymru ar ddiwylliant, y celfyddydau, yr amgylchedd hanesyddol, y Gymraeg, cyfathrebu, darlledu a'r cyfryngau.  

Y Gweinidogion sy'n gyfrifol a gwaith craffu

O fewn Prif Grŵp Gwariant (MEG) yr Economi a'r Seilwaith, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith yn gyfrifol am gyllid o ran y celfyddydau, amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, y cyfryngau a chyhoeddi a'r amgylchedd hanesyddol a naturiol.

O fewn y Prif Grŵp Gwariant Addysg, mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn gyfrifol am gyllid o ran y Gymraeg, gyda chylch gwaith penodol ar gyfer gweithredu'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, ariannu swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a chyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.

Roedd y ddau Weinidog yn bresennol yn ein cyfarfod ar 2 Tachwedd i ateb cwestiynau'r Aelodau.  Cyn hynny, darparodd y ddau Weinidog Femorandwm i'r Pwyllgor ar Gyllideb Ddrafft 2017-18 mewn perthynas â'u cyfrifoldebau ariannu penodol.  Mae copi o'r ddau femorandwm ynghlwm er gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Crynodeb o'r Ddarpariaeth Sylfaenol a Chynigion y Gyllideb

Diwylliant (Refeniw)

Yn 2016-17, darperir cyfanswm o £81.3 miliwn o refeniw sylfaenol yn y meysydd hyn (ynghyd â £3 miliwn o wariant a reolir yn flynyddol [AME]). Cynigir y dylai hyn gynyddu £2.9 miliwn i £84.5 miliwn (ynghyd â £3 miliwn o wariant a reolir yn flynyddol) yn 2017-18.

Diwylliant (Cyfalaf)

Darperir £9.3 miliwn o gyfalaf sylfaenol yn 2016-17. Cynigir y dylai hyn gynyddu £9.5 miliwn i £18.7 miliwn yn 2017-18, yna disgyn £12.8 miliwn (i £5.9 miliwn) yn 2018-19, disgyn £0.3 miliwn (i £5.6 miliwn) yn 2019-20 cyn cynyddu £1.6 miliwn (i £7.2 miliwn) yn 2020-21.

Y Gymraeg

Darperir cyfanswm o £25.6 miliwn o refeniw sylfaenol ar gyfer y Gymraeg.  Cynigir y dylai hyn gynyddu £10.6 miliwn i £36.1 miliwn.  Ni ddarperir unrhyw arian cyfalaf.

Barn gyffredinol y Pwyllgor ar gynigion y gyllideb

Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r cynnydd cyffredinol yn y cyllidebau ar gyfer portffolios y ddau Weinidog.  Mae'n werth nodi'r cynnydd arian parod yn 2017-18 mewn cyllid cyfalaf yn y portffolio diwylliant o dros 100 y cant a'r cynnydd arian parod o dros 40 y cant yng nghyllideb y Gymraeg, er ei bod yn ymddangos bod trosglwyddiadau syml o gyllid presennol oddi mewn i'r Prif Grŵp Gwariant Addysg yn cyfrif am ran helaeth o'r ail gynnydd.  Ar ôl cymryd hynny i ystyriaeth, mae'r cynnydd gwirioneddol mewn arian parod tua 19 y cant, sy'n gynnydd sylweddol serch hynny.

Mae'r cynnydd o dros 3.5 y cant yn y gyllideb refeniw ar gyfer diwylliant i'w groesawu'n fawr, yn enwedig o ystyried y pwysau cyffredinol ar y gyllideb. 

Materion penodol sy'n codi yn sgil craffu ar waith y Gweinidogion

Diwylliant

Cadw – Rhaglen gyfalaf a tharged o ran incwm

Mae cyllideb gyfalaf Cadw yn cynnwys gostyngiad arfaethedig o £1.5 miliwn, o linell sylfaen 2016-17, sef £4.8 miliwn, i £3.3 miliwn yng nghyllideb ddrafft 2017-18. Mae hynny'n ostyngiad o 32 y cant mewn termau arian parod.

Eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet y gellid gwrthbwyso'r gostyngiadau yn y gyllideb gyfalaf yn rhannol drwy'r incwm ychwanegol y gofynnwyd i Cadw ei gynhyrchu (mae gan Cadw darged i gynhyrchu incwm o £6.2 miliwn ar gyfer 2016-17).  Er y câi'r incwm ychwanegol hwn ei gynhyrchu fel refeniw, byddai ar gael i gefnogi rhaglenni refeniw a chyfalaf.  Rydym wedi gofyn am ragor o wybodaeth am y targed ar gyfer cynhyrchu incwm yn 2017-18.

Rydym yn pryderu am lefel y gostyngiad gan fod hon eisoes yn rhaglen gyfalaf gymharol fach.  Rydym hefyd yn pryderu am y posibilrwydd y gallai adnoddau gael eu cyfeirio i safleoedd sy'n gymharol fwy llwyddiannus wrth gynhyrchu incwm ar draul safleoedd sydd o bosibl yn llai 'poblogaidd'.  Mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd yr incwm ychwanegol y disgwylir i Cadw ei gynhyrchu yn gwrthbwyso'r gostyngiad yn llawn a nododd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd o leiaf ran ohono yn cael ei ychwanegu at wariant refeniw yn hytrach na gwariant cyfalaf.

Rydym wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn iddo nodi'n fanylach faint o'r incwm a gynhyrchir gan Cadw ei hun a gaiff ei ailgylchu i gefnogi gwaith Cadw yn ogystal â dadansoddiad o sut y caiff yr incwm hwn ei wario eleni a'r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.  Byddwn yn cyhoeddi ymateb Ysgrifennydd y Cabinet pan ddaw i law.

At hynny, nid yw'n hollol glir beth fydd yr effaith ar Cadw os yw'n methu â bodloni'r targed o ran cynhyrchu incwm.  Rydym hefyd wedi gofyn am sicrwydd y bydd yr holl incwm ychwanegol a gynhyrchir gan Cadw yn cael ei neilltuo a'i ddefnyddio i gefnogi gwaith Cadw.  Rydym hefyd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am y pwyntiau hyn a byddwn yn cyhoeddi ei ymateb. 

Cyngor Celfyddydau Cymru – cynhyrchu incwm

Caiff cyllid ar gyfer y celfyddydau ei sianelu'n bennaf drwy Gyngor Celfyddydau Cymru: £31.2 miliwn o refeniw o'r £31.7 miliwn a ddyrennir i'r maes hwn yn y gyllideb ddrafft. Mae cyllid refeniw yn y maes hwn wedi cynyddu 3.5 y cant mewn termau arian parod o gymharu â'r llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2016-17. Mae'r cynnydd hwn i'w groesawu yn dilyn blynyddoedd o doriadau.

Er gwaethaf y cynnydd hwn yng nghyllid Cyngor y Celfyddydau, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i'r Cyngor "gyflymu ei waith i helpu ei sefydliadau portffolio, a’r sector ehangach, i gynyddu’r incwm a gynhyrchir ganddynt".  Yn ei dystiolaeth, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dargedau uchelgeisiol i'r sefydliadau a gefnogir gan y Cyngor Celfyddydau o ran cynhyrchu mwy o incwm.

Mae gan y Cyngor Celfyddydau darged i gynyddu 20 y cant ar werth yr incwm i'r celfyddydau yng Nghymru o'r sector preifat rhwng 2015 a 2018.  Yn y tymor hwy, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet ei farn y dylai tua thraean o incwm sefydliadau diwylliannol gael ei gynhyrchu ganddynt hwy eu hunain, tra bod y Llywodraeth yn darparu traean (drwy'r Cyngor Celfyddydau) a thraean arall yn dod o godi arian, rhoddion elusennol ac ati.

Yn debyg i Cadw, nid yw'n hollol glir beth fydd yr effaith ar Gyngor Celfyddydau Cymru os byddant yn methu â bodloni'r targed o ran cynhyrchu incwm.  Mae'n rhaid i ni hefyd fynegi rhywfaint o amheuaeth ynghylch a yw'r model ariannu 'tri thraean' yn realistig yng nghyd-destun Cymru gan iddi brofi'n anodd yn y gorffennol denu'r un graddau o gyllid dyngarol â rhannau cyfoethocach o'r DU.

Unwaith eto, rydym hefyd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet a byddwn yn cyhoeddi ei ymateb.

 

Y Gymraeg

Llinell Wariant y Gyllideb Cymraeg mewn Addysg

Mae'r holl wariant cynyddol ar y Gymraeg wedi'i gynnwys yn y llinell wariant hon, sy'n cynyddu £10.6 miliwn.  Fodd bynnag, fel y nodwyd yn gynharach, trosglwyddiadau syml rhwng cyllidebau yn y Prif Grŵp Gwariant Addysg sy'n cyfrif am £5.7 miliwn o'r cynnydd ymddangosol hwn. 

Mae'r trosglwyddiad yn cynnwys y symiau a ganlyn:

·         £5.4 miliwn ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. (I fod yn glir, efallai y bydd y Pwyllgor Cyllid am argymell y dylid nodi'r llinell gyllid hon ar wahân yn y gyllideb derfynol gan fod iddi ddiben penodol iawn sydd rhywfaint yn wahanol i weddill llinell wariant y gyllideb.);

·         £0.5 miliwn o Gam Gweithredu'r Safonau Addysg i gefnogi defnydd anffurfiol o'r Gymraeg ymhlith pobl ifanc; a

·         £0.2 miliwn i'r Cam Gweithredu Cymwysterau ar gyfer arholiadau Cymraeg i Oedolion.

Mae yna hefyd ostyngiad o £0.15 miliwn yn llinell wariant y gyllideb. Defnyddir arbedion amhenodol i dalu'r diffyg. 

Mae hynny'n gadael £4.85 miliwn yn ôl Memorandwm y Gweinidog (paragraff 14) i gefnogi 'datblygiad pellach Cymraeg i Oedolion, ac yn arbennig y ddarpariaeth o gyrsiau Cymraeg ar gyfer y gweithle, gyda’r hyn sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio i gefnogi mentrau eraill sy’n hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg'.  Gwneir penderfyniad ynghylch sut y defnyddir y cyllid hwn yn unol â blaenoriaethau'r Strategaeth Gymraeg newydd, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Disgrifir y £4.85 miliwn a'r gostyngiad o £0.15 miliwn gyda'i gilydd fel '£5 miliwn ychwanegol yn 2017-18 sydd wedi ei ddyrannu o ganlyniad i gytundeb ar y Gyllideb gyda Phlaid Cymru.' Mae braidd yn gamarweiniol honni bod £5 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i'r llinell wariant hon. Y swm ychwanegol yw £4.85 miliwn.  Efallai bod y Llywodraeth yn bwriadu gwario £5 miliwn, ond ni fydd modd iddi wneud hynny oni wneir gostyngiadau mewn rhannau eraill o'r gyllideb.  Byddai'n well pe bai hyn yn cael ei nodi'n glir yn y gyllideb.

Beth bynnag fydd lefel y cyllid ychwanegol (yr ydym yn derbyn y bydd yn arwyddocaol) rydym yn pryderu nad yw'n glir nac wedi'i ddiffinio'n briodol ar hyn o bryd sut y caiff y cyllid hwnnw ei ddefnyddio.  Rydym yn gwerthfawrogi y bydd y Strategaeth Gymraeg newydd yn llywio penderfyniadau gwariant maes o law ac mai rhoi'r cart o flaen y ceffyl, i ryw raddau, fyddai gwneud penderfyniadau cadarn cyn penderfynu ar y strategaeth derfynol. 

Serch hynny, nid yw'n afresymol disgwyl y dylid cael mwy o eglurder ynglyn â'r opsiynau posibl ar gyfer defnyddio'r arian hwn cyn i'r Cynulliad gymeradwyo'r gyllideb derfynol.  Dylai hyn gynnwys asesiad clir o'r amcanion ar gyfer sut y bydd y cyllid newydd yn cefnogi gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (a faint o'r cyllid hwnnw a ddefnyddir i wneud hynny), yn ogystal â'r broses werthuso ar gyfer mesur llwyddiant y gwariant newydd hwn. 

Wrth ymateb i gwestiynau awgrymodd y Gweinidog hefyd y gellid defnyddio rhywfaint o'r arian hwn i sefydlu asiantaeth newydd ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg, neu i greu swyddogaeth debyg mewn corff sy'n bodoli eisoes.  Unwaith eto, nid oes unrhyw fanylion. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog wedi nodi ei fwriad i ysgrifennu at y Pwyllgor pan fydd mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau ar hyn, ac mae'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd cyn rhoi'r gyllideb derfynol gerbron y Cynulliad ym mis Rhagfyr.

Cyllideb Comisiynydd y Gymraeg

Lleihawyd cyllideb y Comisiynydd 10 y cant y llynedd a gwnaed toriadau i'w chyllideb o flwyddyn i flwyddyn sy'n gyfwerth â gostyngiad arian parod o 25 y cant dros y 4 blynedd diwethaf.  Fodd bynnag, darparwyd swm ychwanegol anghylchol o £150,000 i'r Comisiynydd y llynedd er mwyn 'sicrhau ei bod hi’n gallu gwneud y gwaith y mae’n rhaid iddi ei wneud ar hyn o bryd', fel yr eglurodd y Gweinidog.

Nid yw'r gyllideb ddrafft yn cynnig unrhyw gynnydd yn 2017-18, gan barhau i nodi swm o £3.0 miliwn. Os nad yw'r Comisiynydd yn gallu bodloni'i holl gyfrifoldebau ar hyn o bryd, rydym yn credu y gellid dadlau bod angen am ryw lefel o adnoddau ychwanegol.

Pan holwyd y Gweinidog am hyn, fe'i  gwnaeth yn glir nad yw'r Comisiynydd wedi gwneud unrhyw gais am gynnydd yn ei chyllideb.  Fodd bynnag, ar ôl i'r Gweinidog ddod gerbron y Pwyllgor, cysylltodd swyddfa'r Comisiynydd â ni gan ddweud mewn e-bost:

‘Yn dilyn y drafodaeth ar gyllideb y Gymraeg yn y Pwyllgor Diwylliant heddiw, dyma neges ar ran y Comisiynydd i egluro ein amcangyfrif cyllideb ar gyfer 2017/18.

Anfonwyd amcangyfrif ariannol y Comisiynydd ar gyfer 2017/18 at y Llywodraeth ar 6 Hydref.  Mae dyletswydd statudol arnom i anfon yr amcangyfrif at y Llywodraeth o leiaf bum mis cyn y flwyddyn ariannol perthnasol.

Cyllideb y Comisiynydd ar gyfer 2016/17 oedd £3,051,000.  Yn yr amcangyfrif gwnaeth y Comisiynydd gais am £150,000 ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf.  H.y. £75,000 yn ychwanegol ar gyfer 2017/18, sef cyllideb o £3,126,000.

Gallaf gadarnhau felly bod y Comisiynydd wedi gwneud cais am fwy o arian ar gyfer 2017/18.

Byddwn yn ddiolchgar pe bai modd i chi egluro hynny wrth y Pwyllgor.’

Mae'n amlwg bod rhywfaint o ddryswch rhwng yr hyn a ddywedwyd wrthym gan y Gweinidog a'r hyn yr ydym wedi cael gwybod ers hynny gan y Comisiynydd.  Mae'r symiau dan sylw yn gymharol fach, ond rydym yn pryderu nad oedd yn ymddangos bod y Gweinidog yn gwybod am y cais hwn am gyllid ychwanegol.

Rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurhad pellach a byddwn yn cyhoeddi ei ymateb pan y'i derbynnir.

 

Cyllid o fewn Portffolios Gweinidogion eraill

Yn ogystal â'r cyllid y mae'n uniongyrchol gyfrifol amdano, nododd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn ei Femorandwm (para 25) nifer o feysydd o gyllid dynodedig â'r nod o gefnogi'r iaith Gymraeg a darparu gwasanaethau Cymraeg, y mae Gweinidogion eraill yn gyfrifol amdanynt. 

Dylid nodi hefyd bod swm sylweddol o wariant i gefnogi Diwylliant a'r Gymraeg yn cael ei ariannu yn anuniongyrchol drwy rannau eraill o'r gyllideb.  Er enghraifft, mae rhan sylweddol iawn o'r gwariant sy'n cefnogi darpariaeth iaith Gymraeg mewn addysg yn mynd i awdurdodau lleol drwy'r grant cynnal refeniw (RSG).  Gan fod yr iaith Gymraeg yn cael ei phrif-ffrydio ar draws portffolios Gweinidogion, bydd cyllidebau eraill hefyd yn helpu i gefnogi'r ddarpariaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg a'u datblygiad ond efallai na fydd hynny'n gwbl weladwy. Mae cymorth ariannol i agweddau ar y celfyddydau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd hefyd yn cael ei wario gan awdurdodau lleol drwy'r Grant Cynnal Refeniw. 

Mae'r Pwyllgor yn derbyn natur prif ffrwd llawer o wariant y Llywodraeth ar y Gymraeg yn benodol.  Nid yw'r Pwyllgor yn galw am gyfrif y gwariant arall hwn ar wahân.  Byddai gwahanu gwariant yn y modd hwn yn ôl pob tebyg yn anymarferol, yn llyncu amser ac ni fyddai fodd bynnag, mae'n debyg, yn rhoi darlun llawn a chywir o'r gwariant cyffredinol .

Serch hynny, mae'r sefyllfa yn werth ei nodi ac efallai y bydd y Pwyllgor Cyllid am ystyried a allai gwaith craffu ar y gyllideb gan Bwyllgorau eraill y Cynulliad roi rhagor o wybodaeth am wariant sy'n cefnogi Diwylliant a'r Gymraeg. 

Rwy'n anfon copi o'r llythyr hwn at Ken Skates ac Alun Davies er gwybodaeth.

Yn gywir

Bethan Jenkins AC, Cadeirydd